O Ebrill 2023, bydd Corff Llais Dinasyddion newydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru yn disodli'r Bwrdd a'r 7 Cyngor Iechyd Cymuned yng Nghymru. Bydd y corff newydd yn adlewyrchu'r safbwyntiau ac yn cynrychioli buddiannau pobl Cymru mewn perthynas â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd yn annibynnol ar y llywodraeth, y GIG ac awdurdodau lleol ond yn gweithio gyda nhw, ac eraill, i gefnogi gwelliant parhaus gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Bydd Corff Llais y Dinesydd yn:
Bydd Corff Llais y Dinesydd yn defnyddio ystod eang o ddulliau i feithrin cysylltiadau, gan gynnwys trafodaethau wyneb yn wyneb, er mwyn sicrhau bod barn ein cymunedau amrywiol yn cael eu canfod. Yn ogystal, bydd y corff yn rhoi cefnogaeth mewn modd sy’n gweddu orau i’r unigolyn.
Wrth gynrychioli buddiannau’r cyhoedd, bydd Corff Llais y Dinesydd yn meithrin cysylltiadau gyda chyrff y GIG ac awdurdodau lleol pan fyddant yn datblygu, yn adolygu neu’n cynllunio newidiadau i’w gwasanaethau. Gall hyn ddigwydd drwy fod yn rhan o ymarferion ymgynghori; bod yn bresennol mewn cyfarfodydd; neu drwy gysylltu â hwy i fynegi barn ynglŷn ag agweddau penodol o’u gwasanaethau.
Bydd angen i Gorff Llais y Dinesydd ddatblygu perthnasau effeithiol gyda sefydliadau y sectorau cyhoeddus, annibynnol a gwirfoddol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol er budd dinasyddion ac er budd y gwerthoedd a rennir.
Bwrdd Cynghorau lechyd Cymuned, 3ydd Llawr, 33 - 35 Cathedral Road, Caerdydd. CF11 9HB
Ffôn: 02920 235 558 E-bost: enquiries@waleschc.org.uk
Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg. Cliciwch ar ‘English’ ar frig y dudalen
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg, na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi