Yn ôl y gyfraith, mae gan bobl sy'n dymuno cwyno am y gofal a / neu'r driniaeth a gânt gan y GIG hawl i wasanaethau eirioli annibynnol, cyfrinachol i'w helpu i wneud eu cwyn.
Diffinnir eiriolaeth fel "rhoi cefnogaeth weithredol". Dyma rôl ein Gwasanaeth Eiriolaeth Cwynion sydd yma i'ch cefnogi os nad ydych yn fodlon ag unrhyw agwedd ar ofal y GIG yr ydych wedi'i dderbyn ac yn dymuno gwneud cwyn.
Mae ein holl staff eiriolaeth cwynion wedi'u hyfforddi. Mae gan ein heiriolwyr cwynion y Cymhwyster Eiriolaeth Cenedlaethol. Mae CICau yn darparu’r gwasanaeth eirioli cwynion yn lleol yn unol â safonau cenedlaethol a osodwyd gan Fwrdd CICau yng Nghymru.
Gall ein gwasanaeth eirioli cwynion:
Ni all ein gwasanaeth eirioli cwynion:
Hyd yn oed os na allwn helpu gyda mater, efallai y byddwn yn gallu eich cyfeirio at rywun arall a all helpu. Gofynnwch i ni.
Dyluniwyd proses bryderon GIG Cymru “Gweithio i Wella” i helpu pobl i leisio eu pryderon a lle bo modd, eu datrys.
Mae'n annog pobl i siarad â'u darparwr gofal iechyd a allai o bosibl gael rhywbeth yn iawn yn y fan a'r lle. Os nad ydych yn siŵr, gallwch gysylltu â ni a byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i'r person iawn i siarad ag ef.
Gall ein gwasanaeth eirioli cwynion eich helpu chi ar unrhyw gam ym mhroses pryderon GIG Cymru.
Bwrdd Cynghorau lechyd Cymuned, 3ydd Llawr, 33 - 35 Cathedral Road, Caerdydd. CF11 9HB
Ffôn: 02920 235 558 E-bost: enquiries@waleschc.org.uk
Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg. Cliciwch ar ‘English’ ar frig y dudalen
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg, na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi