Ymchwiliad Covid-19 y DUSefydlwyd Ymchwiliad Covid-19 y DU i archwilio parodrwydd ac ymateb y DU i bandemig Covid-19, ac i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.
Bydd profiadau pobl yng Nghymru yn cael eu hadlewyrchu'n briodol ac yn drylwyr yn yr ymchwiliad. Bydd tîm yr ymchwiliad hefyd yn craffu ar y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru. |
Rhannwch eich adborth gyda ni i roi gwybod i ni am eich profiad GIG, a sut ydych chi'n teimlo bod gwasanaethau'r GIG yn dod ymlaen? Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth. Byddwn yn rhannu eich barn gyda’r GIG a Llywodraeth Cymru i helpu i roi gwybod iddynt am yr hyn y mae pobl a chymunedau lleol yn ei ddweud wrthym. Bydd y wybodaeth hon yn caniatáu iddynt weld beth mae pobl yn ei feddwl sy'n gweithio'n dda a chymryd camau i wella gofal lle bo angen - cyn gynted â phosibl. I gymryd rhan yn yr arolwg hwn cliciwch yma.
Os hoffech gael yr arolwg hwn mewn fformat a / neu iaith arall, cysylltwch â ni.
Os hoffech siarad ag aelod o'n tîm am eich profiad, ffoniwch ni ar 02920 235558. Gallwch hefyd gysylltu â ni ar enquiries@waleschc.org.uk a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
Bwrdd Cynghorau lechyd Cymuned, 3ydd Llawr, 33 - 35 Cathedral Road, Caerdydd. CF11 9HB
Ffôn: 02920 235 558 E-bost: enquiries@waleschc.org.uk
Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg. Cliciwch ar ‘English’ ar frig y dudalen
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg, na fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi